Ysgolion ac Eglwysi

Pontio'r bwlch, cysylltu pobl


Yn y genhedlaeth hon, bydd wyth miliwn o blant na fydd yn dod ar draws yr efengyl ac mae Y Cam Nesa! ar hyn o bryd yn cyrraedd rhyw 20 y cant o rai sy'n gadael ysgolion cynradd. Mae hynny'n golygu bod 8 o bob 10 o blant yn dal i gymryd y cam enfawr hwnnw heb y cymorth a'r cyngor y mae Y Cam Nesa! yn ei gynnig. Dymunwn i fwy o blant deimlo'n hyderus am symud i'r ysgol uwchradd a thrwy brynu Y Cam Nesa!, gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth.

Mae Y Cam Nesa! wedi bod yn declyn i helpu eglwysi i greu cysylltiadau gyda'u hysgolion lleol. Mae cysylltiadau a ddechreuodd gydag eglwys (neu grwp o eglwysi) yn prynu ac yn rhoi'r llyfrau yn rhoddion yn yr ysgolion cynradd lleol wedi datblygu i ffurfio cyfeillgarwch cynyddol. Mae eglwysi wedi gallu darparu gwasanaethau boreol, cyfrannu at wersi Addysg Grefyddol, clybiau ar ôl ysgol, ymweliadau i'w heglwysi a llawer mwy! Beth am ddarganfod pa weinidogaethau newydd, cyffrous y gellir eu hagor yn eich cymuned drwy Y Cam Nesa!?

Os nad ydych wedi gweld Y Cam Nesa! eto, rydym yn falch o anfon copi enghreifftiol i chi am ddim, fel y gallwch bwyso a mesur y llyfr yn wrthrychol. Llenwch y ffurflen gais.

School girl working with teacher