Y Cam Nesa! Gwyliau

Wedi darllen y llyfr, wedi dweud eich ffarwel ac yn awr am y gwyliau...


Mae Scripture Union yn cynnal gwyliau preswyl byr Y Cam Nesa! (YCN) yn ystod yr egwyl rhwng gadael ysgol gynradd a symud ymlaen i'r ysgol uwchradd. Mae'r gwyliau hyn yn cyfuno holl hwyl, gweithgaredd a ffocws ysbrydol gwyliau SU arferol ond hefyd yn cymryd amser i ymchwilio i a sgwrsio am yr holl deimladau a materion a godir yn y llyfr YCN.

Rydych yn sicr o gael amser gwych yn mynd yn wyllt ar y cwrs rhaffau, yn sblasio yn y pwll nofio neu yn mynd yn greadigol yn gwneud eich hysbysebion teledu eich hun. Rhai byr ydyn nhw ond maent yn llwyddo i gynnwys llawer!

Wedi eu lleoli mewn dwy ganolfan (Swydd Berkshire a Swydd Buckingham) maent wedi bod yn hynod boblogaidd gyda rhai plant. Dyma beth maen nhw a'u rhieni yn ei ddweud:

Girls swimming

Cartoon school girl

"

Rydw i'n gobeithio y bydd mwy o blant yn cael cyfle i'w fwynhau cymaint ag a wnes i ac y byddant yn dysgu cymaint ag a wnes i.

"

Cafodd fy merch amser gwych, mwynhaodd bob munud, aeth yr amser yn rhy gyflym a hoffai fynd eto.

"

Dysgais pan af i'r ysgol uwchradd y bydd Duw gyda mi bob amser.

Felly os hoffech ddathlu diwedd yr ysgol gynradd a chael egwyl fer yn llawn gweithgareddau ymwelwch รข gwefan Gwyliau Scripture Union. Y Cam Nesa!