Beth maent yn ei ddweud am Y Cam Nesa!

Mae Wayne Dixon, sy'n weithiwr ysgolion yn Maidenhead, Windsor a Slough yn dangos sut y mae wedi defnyddio Y Cam Nesa! fel rhan o becyn 3 rhan i ddatblygu cysylltiadau rhwng eglwysi ac ysgolion ac i helpu'r plant hynny sy'n symud i fyny i addysg ysgol uwchradd...

"Rydym yn ymweld â'r ysgolion yn ein hardal i gyflwyno'r llyfrau Y Cam Nesa! yn nhymor yr haf. Yma yn Slough mynychodd disgyblion blwyddyn 6 ddigwyddiadau'r Nadolig a'r Pasg drwy un o'r 3 eglwys. Mae'r eglwysi hefyd yn ymwneud â'r cyflwyniadau o Y Cam Nesa! lle rhoddir tua 1600 o lyfrau i ddisgyblion o ryw 30 o ysgolion. Mae llawer o'r disgyblion hyn wedi mynychu un o'r digwyddiadau Nadolig a'r Pasg o'r blaen.

Mae'r digwyddiadau hyn wedi bod yn cael eu cynnal am 12 mlynedd yn awr ac am y 5 olaf ers i Y Cam Nesa! ymddangos, felly mae perthynas go iawn wedi datblygu.

Yna, ar fy ymweliadau i'r ysgolion uwchradd yn ystod tymor yr hydref gallaf wneud y cyswllt ychwanegol hwnnw, ac mae'r 'pysgod bach mewn pwll mwy' yn gweld wyneb cyfarwydd yn yr wythnosau cynnar hynny.

Wayne's portrait

Mae hyn yn ddi-os wedi cryfhau cysylltiadau gyda'r ysgolion cynradd a'r eglwysi, ac yn bwysicach fyth gyda'r disgyblion. Mae'n wych!

Fy mhrofiad i dros y 5 mlynedd diwethaf yw fod disgyblion yn gwirioneddol werthfawrogi ac yn trysori'r llyfr. Mae'n ddifyr i'w ddarllen, yn llawn gwybodaeth ac yn ymarferol ac mor ddefnyddiol fel y gall arwain at bethau eraill..."

Beth mae'r plant yn ei ddweud am Y Cam Nesa!

Girls piggy back

"

Mae'n wych!

"

Rydw i'n dal i edrych ar fy un i.

"

Mae'n llawn gwybodaeth!

"

Mae wedi fy helpu i lawer iawn.

"

Mae mam a dad yn ei ddarllen. Roedden nhw yn ei hoffi hefyd!