Mae Scripture Union yn darparu adnoddau nid yn unig ar gyfer un cam mewn bywyd plentyn, ond rydym hefyd wedi datblygu ystod lawn o adnoddau wedi eu hanelu at helpu plant a phobl ifanc i symud ymlaen, tra hefyd yn rhoi fframwaith gadarnhaol iddynt ar gyfer datblygu ffydd yn yr ysgol...
Er eich bod efallai yn cofio eich diwrnod cyntaf yn yr ysgol uwchradd, efallai fod eich diwrnod cyntaf yn yr ysgol gynradd yn atgof mwy niwlog!
Er hynny, mae dechrau yn yr ysgol gynradd yn newid mawr i'r plentyn a'r rhiant fel ei gilydd ac mae Scripture Union wedi ceisio gwneud y cyfnod hwn yn haws gyda Get ready go! llyfr i rieni ei ddefnyddio gyda phlant, sy'n egluro'r cyfan y gallent ei ddisgwyl yn eu hysgol newydd.
Yn eistedd y tu mewn i'r clawr ôl, mae llyfr llai, Get ready to let Go, yn cynnwys cyngor a storïau go iawn am rieni sydd wedi bod trwy'r cyfnod trawmatig o anfon eu plentyn i'r ysgol am y tro cyntaf!
Darganfyddwch fwy
Bydd athrawon Cyfnod Allweddol 2 yn croesawu Into the Bible: 101 routes to explore, casgliad o 101 o ddetholiadau o'r Beibl, yn y Fersiwn Saesneg Cyfoes.
Mae wedi ei gyflwyno yn glir ac mewn modd addas i blant gyda darluniau hwyliog a gwybodaeth ychwanegol, gyda CD Rom yn cynnwys 24 o amlinelliadau o wersi hawdd eu defnyddio, gydag adnoddau ychwanegol a 101 o ddetholiadau i'w taflunio ar fwrdd gwyn rhyngweithiol.
Bydd y plant yn dysgu am ac o'r Beibl yn ogystal ag ymchwilio i'r hyn mae Cristnogion yn ei gredu a sut maent yn ymddwyn.
Daw hyn mewn pecyn dosbarth o 15 gyda'r CD Rom am £99 ond fe'i gwerthir ar wahân hefyd.
Darganfyddwch fwy
Meddyliwch yn ôl at yr adeg pan oeddech chi yn 16. Wyddech chi beth oeddech chi yn mynd i'w wneud? Oeddech chi wedi penderfynu yn bendant ar yrfa o oed cynnar? Neu oeddech chi yn meddwl tybed beth oedd gan fywyd ar eich cyfer?
Gall dynesu at gyfnod TGAU a thu hwnt fod yn amser dryslyd a brawychus i rai 16 oed, ond mae Life, actually yn ceisio rhoi cyngor i bobl ifanc am ba lwybrau y gallant eu dilyn a beth y gallant ei ddisgwyl ar y ffordd.
Ceir awgrymiadau defnyddiol hefyd am oroesi'r rhyddid a'r dewisiadau a fydd ganddynt o'u blaenau. A oes grwp Blwyddyn 11 mewn ysgol uwchradd yn eich ymyl chi a allai elwa o'r cyngor sydd gan Life, actually i'w gynnig?
Darganfyddwch fwy